Frank Bough | |
---|---|
Ganwyd | 15 Ionawr 1933 ![]() Fenton ![]() |
Bu farw | 21 Hydref 2020 ![]() |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | newyddiadurwr, cyflwynydd, cyflwynydd chwaraeon, darlledwr ![]() |
Cyflogwr |
Roedd Francis Joseph Bough (15 Ionawr 1933 – 21 Hydref 2020), neu Frank Bough, yn gyflwynydd teledu Seisnig. Roedd e'n fwyaf adnabyddus fel cyflwynydd y rhaglenni Grandstand (1968-1983), Nationwide (1972-1982) a Breakfast Time (1983-1987).
Cafodd Bough ei eni yn Fenton, Stoke-on-Trent, Swydd Stafford. Cafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Croesoswallt ac yng Ngholeg Merton, Rhydychen.[1] Priododd Nesta Howells ym 1992.
Daeth gyrfa Bough i ben ar ôl i bapur newydd redeg stori am ei ddefnydd o cocaine â phuteiniaid. Roedd hyn yn syndod o ystyried ei ddelwedd fel dyn teulu parchus.[2]
Dwedodd Michael Parkinson ym 1987: "If my life depended on the smooth handling of a TV show, Bough would be my first choice to be in charge."[3]
Yn yr 1980au hwyr ffurfiwyd y grŵp Cymraeg 'Boff Frank Bough' yn ardal Dyffryn Conwy a Dyffryn Clwyd.[4]