Frank Bowden | |
---|---|
Ganwyd | 30 Ionawr 1848 Dyfnaint |
Bu farw | 25 Ebrill 1921 |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Galwedigaeth | entrepreneur, dyfeisiwr |
Tad | William Bowden |
Priod | Amelia Frances Houston |
Plant | Helen Bowden, Winifred Bowden, Caroline Louise Bowden, Sylvia Bowden, Harold Bowden, Claud Bowden |
Dyn busnes a dyfeisiwr o Loegr oedd Sir Frank Bowden, Barwnig 1af Nottingham (30 Ionawr 1848 – 25 Ebrill 1921), a sefydlodd gwmni beics Raleigh a dyfeisiodd y Bowden cable
Pan oedd Bowden yn 24 oed mi wnaeth ffortiwn ar y farchnad stoc yn Hong Cong. Pan ddychwelodd i Brydain, amcangyfrodd ei feddyg fod ganddo ond 6 ar ôl mis i fyw. Ar gyngor ei feddyg, dechreuodd Bowden seiclo. Ar ôl gwella o'r salwch, prynodd y cwmni a werthodd ef ei feic cyntaf ac yn Rhagfyr 1888 sefydlwyd y 'Raleigh Bicycle Company'. Erbyn 1896 roedd wedi tyfu i fod y gwneuthurwyr beics mwyaf yn y byd. Yn 1915, gwnaethpwyd ef yn Baronet, o Ddinas Nottingham.
Priododd Bowden Amelia Frances, merch Alexander Houston, yn 1879. Bu farw yn Ebrill 1921, yn 73 oed, ac olynwyd ef yn ei farwniaeth gan ei fab hynaf Harold. Bu farw'r Arglwyddes Bowden yn 1937.