Frank Lloyd Wright | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Franklin Lincoln Wright ![]() 8 Mehefin 1867 ![]() Canolfan Richland ![]() |
Bu farw | 9 Ebrill 1959 ![]() Phoenix ![]() |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | pensaer, cynlluniwr trefol, llenor, cynllunydd ![]() |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Emil Bach House, Pettit Memorial Chapel, Annunciation Greek Orthodox Church, A. D. German Warehouse, Fallingwater, Prairie School architecture, Solomon R. Guggenheim Museum ![]() |
Tad | William Carey Wright ![]() |
Mam | Anna Lloyd Jones Wright ![]() |
Priod | Olgivanna Lloyd Wright, Catherine Tobin Wright, Miriam Noel Wright ![]() |
Partner | Mamah Borthwick ![]() |
Plant | John Lloyd Wright, Lloyd Wright, Iovanna Lloyd Wright, Catherine Dorothy Wright ![]() |
Gwobr/au | Medal Aur Frenhinol, Medal Frank P. Brown ![]() |
llofnod | |
![]() |
Pensaer Americanaidd oedd Frank Lloyd Wright (8 Mehefin 1867 – 9 Ebrill 1959).[1]
Americanwr o Wisconsin ydoedd, ond gŵr a'i wreiddiau'n ddwfn yng Nghymru. Bu'n bensaer dros 500 o brosiectau gorffenedig, yn awdur dros 20 o lyfrau pensaernïol a chynllunydd dodrefn mwyaf yr 20g. Yn 1991 fe gyhoeddodd Cymdeithas Penseiri America mai ef oedd "the greatest American architect of all time".[2]
Ar ôl dod yn bensaer galwodd nifer o'i adeiladau yn "Taliesin" (yn ogystal â'i gartref ei hun).[3][4]
O'r cartref cyntaf gafodd ei gynllunio ganddo hyd at ei farwolaeth, creodd syniadau chwyldroadol megis pensaernïaeth organig (chwedl Fallingwater), a oedd yn pwysleisio y dylai'r adeilad ffitio i mewn yn naturiol i'r ardal mae ynddo. Creodd fathau gwahanol o eglwysi, swyddfeydd, ysgolion, gwestai ayb - yn ogystal â thu fewn i'r adeiladau hyn: y dodrefn a'r ffenestri er enghraifft. Sgwennodd dros ugain o lyfrau'n ymwneud â phensaernïaeth yn ystod ei oes ac roedd yn ddarlithydd poblogaidd iawn drwy America ac Ewrop. Roedd yn berson lliwgar hefyd ac roedd ei fywyd yn llenwi papurau'r oes: methiant dwy briodas a'r tân erchyll a gynnwyd yn fwriadol yn 1914 gan ddifrodi'r Taliesin Studio - a lladd 7 o bobl.
Defnyddiodd gynllun agored yn aml, sy'n dangos ei fod yn ymateb i'r newidiadau cymdeithasol yn America; roedd y gegin er enghraifft yn aml bron yn un a'r ystafell fwyta - er mwyn i'r wraig gadw llygad ar y plant neu'r ymwelwyr tra'n coginio. Cafodd ei ddynwared gan lawer o bensaeri a'i ddilynodd - ac yn eu plith mae Mies van der Rohe. Ef oedd arweinydd y symudiad a elwir y 'Prairie School movement of architecture' (gyda Robie House a Westcott House yn esiamplau clasurol), a datblygodd y syniad o'r cartref Usonaidd ('Usonian') (gweler ei Rosenbaum House).