Mudiad rhyngwladol i ddisgyblion ysgol yw School Strike for Climate (SS4C) (Swedeg gwreiddiol: Skolstrejk för klimatet), a elwir hefyd yn Fridays for Future (FFF), Youth for Climate, Streic Hinsawdd neu'n Streic Ieuenctid ar gyfer Hinsawdd. Mae aelodau'r mudiad yn gadael eu hysgolion bob dosbarthiadau dydd Gwener i gymryd rhan mewn gwrthdystiadau i fynnu fod arweinyddion y byd yn gweithredu i atal newid hinsawdd ac i'r diwydiant tanwydd ffosil drosglwyddo i ynni adnewyddadwy.
Dechreuodd cyhoeddusrwydd a threfnu eang ar ôl i’r disgybl o Sweden, Greta Thunberg, gynnal protest yn Awst 2018 y tu allan i Riksdag (senedd) Sweden, gan ddal arwydd a oedd yn datgan: "Skolstrejk för klimatet" ("Streic ysgol dros yr hinsawdd").[1][2]
Cynhaliwyd streic fyd-eang ar 15 Mawrth 2019 gyda dros miliwn o streicwyr mewn 2,200 o ysgolion, a drefnwyd mewn 125 o wledydd.[3][4][5] Ar 24 Mai 2019, cynhaliwyd yr ail streic fyd-eang, lle gwelwyd 1,600 o brotestiadau ar draws 150 o wledydd a channoedd o filoedd o wrthdystwyr. Amserwyd y digwyddiadau i gyd-fynd ag Etholiad Senedd Ewrop, 2019.[6][7][8][9]
Roedd Global Week for Future 2019 yn gyfres o 4,500 o streiciau ar draws dros 150 o wledydd, bob dydd Gwener rhwng 20 Medi a dydd Gwener 27 Medi. Dyma streiciau hinsawdd mwyaf yn hanes y byd, casglodd streiciau 20 Medi oddeutu 4 miliwn o wrthdystwyr, llawer ohonynt yn blant ysgol, gan gynnwys 1.4 miliwn yn yr Almaen.[10] Ar 27 Medi, amcangyfrifwyd bod dwy filiwn o bobl wedi cymryd rhan mewn gwrthdystiadau ledled y byd, gan gynnwys dros filiwn o wrthdystwyr yn yr Eidal a channoedd o filoedd o wrthdystwyr yng Nghanada.[11][12][13]