![]() | |
Math | tref ![]() |
---|---|
Ardal weinyddol | Frinton and Walton |
Daearyddiaeth | |
Sir | Essex (Sir seremonïol) |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.8327°N 1.2452°E ![]() |
Cod OS | TM236198 ![]() |
Cod post | CO13 ![]() |
![]() | |
Tref glan môr yn Essex, Dwyrain Lloegr, ydy Frinton-on-Sea.[1] Fe'i lleolir ym mhlwyf sifil Frinton and Walton yn ardal an-fetropolitan Tendring.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan yr ardal adeiledig boblogaeth o 4,687.[2]
Rhestrir y lle fel Frientuna yn Llyfr Dydd y Farn (1086).[3] Cyn y 19g roedd Frinton yn bentref syml yn cynnwys eglwys ac ychydig o ffermydd a bythynnod. Ond yn ystod y 1890au fe'i datblygwyd yn gyrchfan glan môr bonheddig, gyda thai o ansawdd da ond heb dai preswyl na thafarndai. Cafodd y dref gwrs golff, clwb tennis pwysig, gwestai o safon uchel, a lido. Yn hanner cyntaf yr 20g denodd y dref ymwelwyr o'r cylchoedd uchaf. Mae ganddo bromenâd gyda channoedd o gytiau traeth ar hyd traeth tywodlyd a cherrig hir sy'n addas ar gyfer nofio.