Futanari

Y ddau fath o futanari

Gair Japaniaidd ydy futanari (二成, 二形; ふたなり, sy'n golygu, yn llythrennol: "ffurf ddeuol") ac mae'n ddisgrifiad o berson deuryw neu hermaffrodeit, ac yn ei ystyr llawnach at androgynedd.[1][1][2][3] Hyd at 1644, roedd yr apêl yma yn gryf drwy ddramâu Japaniaidd a chafwyd ffasiwn diweddar o gymeriadau futunari mewn cylchgronau a ffilmiau manga, anime a hentai.

Mae'r enw'n cyfeirio at berson sydd ag organau gwrywaidd a benywaidd. On y tu allan i Japan, defnyddir y gair i ddisgrifio genre o ffilmiau eroge, comics ac anime, gyda'u harwyr yn dangos nodweddion y ddau ryw.[1] Fel arfer, mae'r nodweddion allanol yn ferchetaidd, ond nodweddion gwrywaidd o dan y dillad.[3]

  1. 1.0 1.1 1.2 Leupp, Gary P.Male Colors: The Construction of Homosexuality in Tokugawa Japan, Gwasg Prifysgol Califfornia 1997, tud. 174, ISBN 9780520209008
  2. Krauss, Friedrich Salomo et al. Japanisches Geschlechtsleben: Abhandlungen und Erhebungen über das Geschlechtsleben des japanischen Volkes ; folkloristische Studien, Schustek, 1965, tud. 79, 81
  3. 3.0 3.1 (Almaeneg) Krauss, Friedrich Salomo et al. Japanisches Geschlechtsleben: Abhandlungen und Erhebungen über das Geschlechtsleben des japanischen Volkes ; folkloristische Studien, Schustek, 1965, tt. 79, 81

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne