Gaeaf

Tymhorau

Gaeaf
Gwanwyn
Haf
Hydref

Golygfa aeaf

Un o dymhorau'r flwyddyn yw'r gaeaf. Yn seryddol mae'r tymor yn dechrau ar yr 21 Rhagfyr i'r gogledd o'r gyhydedd ac ar 21 Mehefin yn y de. Mae'n gorffen ar 21 Mawrth yn y gogledd ac ar Fedi 21 yn y de. Ond yn aml ystyrir y misoedd cyfan sef Rhagfyr, Ionawr a Chwefror yn y gogledd a Mehefin, Gorffennaf ac Awst yn y de fel misoedd y gaeaf. Yn ôl y calendr Celtaidd ar y llaw arall, Tachwedd, Rhagfyr a Ionawr ydyw, a dyna pam y gelwir 31 Hydref yn Galan Gaeaf yn Gymraeg.

Yng Nghymru y mae yn oer yn y gaeaf gyda'r planhigion ddim yn tyfu fawr ddim os o gwbwl, a bydd nifer o adar yn fwy dof ac yn chwilio am fwyd o gwmpas y tai. Mae yn tywyllu yn gynnar yn y prynhawn, ac yn dywll yn hwyr yn y bore. Mae'n bwrw eira ac yn gallu rhewi'n galed yn ystod y gaeaf.

Ysgrifennodd R. Williams Parry awdl enwog o'r enw Y Gaeaf.

Chwiliwch am gaeaf
yn Wiciadur.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne