Grŵp ethno-ieithyddol Geltaidd sydd yn frodorol i Ynysoedd Prydain ac Iwerddon yw'r Gaeliaid (Gwyddeleg: Na Gaeil, Gaeleg yr Alban: Na Gàidheil, Manaweg: Ny Gaeil). Y Gwyddelod, yr Albanwyr, a'r Manawiaid yw'r tair cenedl Aelaidd, sydd yn byw yn Iwerddon, yr Alban, ac Ynys Manaw. Yr ieithoedd Goidelig, is-gangen o'r ieithoedd Celtaidd, yw ieithoedd cynhenid y Gaeliaid. Nid yw ystyr neilltuol yr enw yn crybwyll siaradwyr Sgoteg a Saesneg yr Alban, nac y Sgot-Wyddelod a'r Eingl-Wyddelod yn Iwerddon.
Tarddai'r iaith Wyddeleg Cyntefig, sylfaen yr ieithoedd Goidelig, yn Iwerddon. Ymledodd diwylliant y Gaeliaid i'r Alban ac Ynys Manaw yn yr Oesoedd Canol. Yn ystod oes y Llychlynwyr, ymsefydlai rhai o'r goresgynwyr yn y gwledydd Gaelaidd. Yn y 9g, unodd Gaeliaid Dál Riata yng ngorllewin yr Alban â'r Pictiaid yng ngogledd a dwyrain yr Alban i ffurfio Teyrnas Alba. Saith teyrnas dan benarglwyddiaeth yr Uchel Frenin oedd y drefn yn Iwerddon. Cafodd diwylliant a chymdeithas y Gaeliaid eu dirywio'n raddol gan oresgyniadau'r Normaniaid a'r Saeson, yn enwedig yn sgil gwladychu Iwerddon a seisnigo'r Alban yn yr 17g.
Enillodd y Gwyddelod y frwydr am annibyniaeth yn yr 20g, er i'r ynys gael ei rhannu wrth sefydlu Gweriniaeth Iwerddon pan arhosai'r chwe sir ogleddol a chanddynt fwyafrif Sgot-Wyddelig Protestannaidd yn rhan o'r Deyrnas Unedig. Mae'r Alban yn wlad ddatganoledig o fewn y DU, a chanddi senedd a llywodraeth ei hun. Mae'r ieithoedd cynhenid wedi colli tir yn y gwledydd hynny, ac eithrio yng nghadarnleoedd y Gaeltacht yn achos y Wyddeleg a'r Gàidhealtachd yn achos Gaeleg yr Alban. Tiriogaeth sy'n ddibynnol ar y Goron Brydeinig yw Ynys Manaw, sydd yn meddu ar ymreolaeth drwy'r Tynwald. Bu farw'r iaith Fanaweg yn yr 20g, er iddi gael ei hadfywio'n ddiweddar, ac mae'r Manawiaid bellach yn lleiafrif yng ngwlad eu hunain.