Math | Taleithiau Tiwnisia ![]() |
---|---|
Prifddinas | Gafsa ![]() |
Poblogaeth | 337,331 ![]() |
Sefydlwyd | |
Cylchfa amser | CET ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Tiwnisia ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 7,807 km² ![]() |
Uwch y môr | 351 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 34.42°N 8.78°E ![]() |
Cod post | xx ![]() |
TN-71 ![]() | |
![]() | |
Talaith yng nghanolbarth Tiwnisia yw talaith Gafsa. Mae'n gorwedd yng ngorllewin canolbarth y wlad, am y ffin ag Algeria i'r dwyrain, gan ffinio ar daleithiau Tozeur, Kebili a Gabès i'r de a Kasserine a Sid Bouzid i'r gogledd yn Nhiwnisia ei hun. Gafsa yw prifddinas a dinas fwyaf y dalaith.
Mae talaith Gafsa yn gorwedd rhwng y Tell uchel lled-anial i'r gogledd a'r Sahara Tiwnisaidd i'r de. Mae'r ardal gyfan, yn enwedig y bryniau yn y gorllewin, yn enwog am ei mwyngloddiau ffosffad. Yn ogystal â'i diddordeb i ddaearegwyr, mae gan yr ardal rai o'r safleoedd cynhanesyddol hynaf yng Ngogledd Affrica sy'n dyddio yn ôl tua 150,000 o flynyddoedd.
Mae Gafsa yn boeth iawn yn yr haf ond mae'r gaeaf yn gallu bod yn oer. Ychydig iawn o law sy'n disgyn, a hynny yn bennaf yn y gaeaf.
Unig atyniad twristaidd Gafsa yw rheilffordd y Lezard Rouge, sy'n rhedeg trwy'r bryniau ffosffad o liwiau coch a melyn trawiadol ger Metlaoui. Adeiladwyd y rheilffordd gan y Ffrancod yn y cyfnod trefedigaethol i wasanaethu'r mwyngloddiau ffosffad.