![]() | |
Enghraifft o: | math o wrthrych seryddol ![]() |
---|---|
Math | disc galaxy ![]() |
Olynwyd gan | Galaeth lensaidd ![]() |
![]() |
Mae galaethau troellog yn rhan o ddosbarth o alaeth a ddisgrifiwyd yn wreiddiol gan Edwin Hubble yn ei waith ym 1936, The Realm of the Nebulae [1] ac, fel y cyfryw, maent yn rhan o ddilyniant Hubble. Mae'r mwyafrif o alaethau troellog yn cynnwys disg fflat sy'n cylchdroi ac yn cynnwys sêr, nwy a llwch, a chrynhoad canolog o sêr a elwir y chwydd. Mae'r rhain yn aml wedi'u hamgylchynu gan leugylch o sêr llawer llai disglair, llawer ohonynt yn bodoli mewn clystyrau amgrwn.
Mae galaethau troellog yn cael eu henwi felly oherwydd eu strwythurau troellog, sy'n ymestyn o'u canol ac alln i'r ddisg galactig. Mae sêr yn parhau i ffurfio yn y breichiau troellog, gan olygu eu bod yn fwy disglair na'r ddisg o'u cwmpas oherwydd y sêr OB ifanc a phoeth o fewn iddynt.