Galileo Galilei | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Galileo di Vincenzo Bonaiuti de' Galilei ![]() 15 Chwefror 1564 ![]() Pisa ![]() |
Bu farw | 8 Ionawr 1642 ![]() Arcetri ![]() |
Man preswyl | Pisa, Padova, Fflorens ![]() |
Dinasyddiaeth | Dugiaeth Fflorens, Uchel Ddugiaeth Toscana ![]() |
Alma mater | |
ymgynghorydd y doethor | |
Galwedigaeth | seryddwr, athronydd, mathemategydd, ffisegydd, dyfeisiwr, astroleg, academydd, gwyddonydd, peiriannydd, athronydd ![]() |
Cyflogwr |
|
Adnabyddus am | Galilean transformation, equations for a falling body ![]() |
Tad | Vincenzo Galilei ![]() |
Mam | Giulia Ammannati ![]() |
Partner | Marina Gamba ![]() |
Plant | Vincenzo Gamba, Maria Celeste ![]() |
Gwobr/au | International Space Hall of Fame ![]() |
llofnod | |
![]() |
Seryddwr a ffisegydd o Eidalwr oedd Galileo Galilei (15 Chwefror 1564 – 8 Ionawr 1642), y seryddwr cyntaf i ddefnyddio telesgop i astudio'r sêr. Dywedodd y gwyddonydd Stephen Hawking, "Galileo, perhaps more than any other single person, was responsible for the birth of modern science."[1]
Darganfu pedwar lloeren mwyaf y blaned Iau - Io, Ewropa, Ganymede a Challisto. Ef oedd y dyn cyntaf i ddarganfod cyrff allfydol a chaiff y pedwar hyn eu hadnabod heddiw fel Lloerennau Galileaidd.
Galileo hefyd oedd y dyn cyntaf i weld y blaned Neifion, ond wnaeth o fethu gwireddu pwysigrwydd y gwrthrych, yn meddwl ei bod yn seren. O ganlyniad, ni chafodd y blaned ei chydnabod tan 1846.
Roedd Galileo'n gefnogwr o theori heliosentrig Copernicus. O ganlyniad, cafodd ei ddistewi gan yr Eglwys Gatholig.