Math | gweithgaredd hamdden, chwarae |
---|---|
Yn cynnwys | amusement arcade, casino, betting shop, bookmaker, Loteri |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ystyr gamblo (weithiau hapchwarae) ydy rhoi arian neu rhywbeth gwerthfawr ar ddigwyddiad sydd â chanlyniad ansicr, gyda'r nod o ennill mwy o arian a/neu nwyddau materol. Fel arfer, mae canlyniad y gambl i'w weld o fewn cyfnod byr.
Mae gamblo yn weithgarwch masnachol rhyngwladol, gydag amcangyfrif o $335 biliwn wedi ei wario ar gamblo cyfreithlon yn 2009.[1] Mae mathau eraill o gamblo yn cynnwys cyfnewid deunyddiau sydd a gwerth penodol, ond na sydd yn arian go iawn; er enghraifft, gemau fel Pogs neu Magic: The Gathering.
Dywedodd John Hartson yn 2012,
Rydw i edi bod yn glir o gamblo am saith mis.. mae'n dostrwydd, fel pob adiction arall, ac mae'n rhaid i fi ddelio gydag ef.
Dywedodd ei fod yn cael triniaeth ddwywaith yr wythnos gan y Gamblers Association.[2]