Math | dinas, dinas fawr |
---|---|
Poblogaeth | 100,286 |
Cylchfa amser | UTC+05:30 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gangtok subdivision |
Gwlad | India |
Arwynebedd | 19.2 km² |
Uwch y môr | 1,436 metr |
Cyfesurynnau | 27.33°N 88.62°E |
Cod post | 737101, Pin Code of Gangtok |
Prifddinas talaith Sikkim yng ngogledd-ddwyrain India yw Gangtok. Ei phoblogaeth yw 85,000 (1999).
Ystyr yr enw Gangtok yn Nepaleg yw "Y Bryn Uchel". Saif ar fryn hir cul, tua 5,300 troedfedd o uchder, rhwng Afon Ranipul i’r gorllewin ac Afon Rongnek i’r dwyrain. Ni wnaethpwyd yn brifddinas — y drydedd yn hanes y wlad ar ôl Yuksom a Rabdentse — tan ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg pan nad oedd ond y llys brenhinol ac ychydig o adeiladau eraill yno.
Mae Gangtok wedi datblygu cryn dipyn ers y chwedegau, yn rhannol oherwydd twf ei phoblogrwydd fel canolfan gwyliau gan Fengaliaid dosbarth canol o'r gwastatiroedd, ac erbyn hyn mae’n dref fywiog sy’n ymestyn yn anhrefnus braidd dros lethrau gorllewinol y bryn.