Gareth Anscombe | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 10 Mai 1991 ![]() Auckland ![]() |
Dinasyddiaeth | Seland Newydd, y Deyrnas Unedig ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | chwaraewr rygbi'r undeb ![]() |
Taldra | 183 centimetr ![]() |
Pwysau | 87 cilogram ![]() |
Chwaraeon | |
Tîm/au | New Zealand national under-20 rugby union team, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru ![]() |
Safle | maswr, Cefnwr ![]() |
Gwlad chwaraeon | Seland Newydd, Cymru ![]() |
Chwaraewr rygbi'r undeb sydd wedi chwarae dros dîm cenedlaethol Cymru yw Gareth Anscombe (ganwyd 10 Mai 1991).[1] Mae'n chwarae'n bennaf yn safle'r maswr. Mae ar hyn o bryd yn chwarae i Gleision Caerdydd yn y Pro14.
Mae Anscombe yn enedigol o Seland Newydd ac yn fab i gyn-hyfforddwr Auckland ac Ulster, Mark Anscombe.
Dechreuodd Anscombe chwarae rygbi proffesiynol gydag Auckland yn nhymor 2010, sef y flwyddyn gyntaf wedi iddo adael ysgol. Ef oedd prif sgoriwr Pencampwriaeth Iau y Byd yr IRB [2] yn 2011, a llwyddodd i gadw ei le yng ngharfan Auckland.
Dechreuodd Anscombe chwarae i'r Blues yn 2012, pan ddaeth ymlaen i'r cae fel eilydd yn lle Michael Hobbs yn y gêm ail rownd yn erbyn y Chiefs yn Hamilton. Dechreuodd ei gêm gyntaf yn erbyn y Bulls yn rownd tri, a sgoriodd bob un o'r pwyntiau Blues mewn buddugoliaeth 29 - 23. Er iddo ddisgleirio yng Nghwpan ITM 2012, a helpu Auckland i gyrraedd y rowndiau terfynol cyn colli i Canterbury,[3] methodd wneud argraff ar dîm rheoli'r Blues a chollodd ei le yn y garfan ar ôl i John Kirwan gael ei benodi'n hyfforddwr. Cyhoeddwyd y byddai'n chwarae dros y Chiefs yn nhymor 2013.[4] Yn 2013 estynnwyd ei gytundeb gyda'r Chief tan 2014.[5]