Gareth Jones (gwleidydd)

Gweler hefyd y tudalen gwahaniaethu Gareth Jones.
Gareth Jones

Cyfnod yn y swydd
6 Mai 1999 – 3 Mai 2003

Cyfnod yn y swydd
1 Mai 2007 – 6 Mai 2011

Geni (1939-05-14) 14 Mai 1939 (85 oed)
Blaenau Ffestiniog, Gwynedd
Plaid wleidyddol Plaid Cymru
Alma mater Prifysgol Abertawe

Gwleidydd Cymreig, aelod o Blaid Cymru a chyn Aelod Cynulliad yw Gareth Jones OBE (ganed 14 Mai 1939).

Mae'n un o dri aelod Panel Cynghori cyntaf Comisiynydd y Gymraeg, gyda'i benodiad yn rhedeg o 1 Ebrill 2012 hyd 31 Mawrth 2015.[1]

Ganed Gareth Jones ym Mlaenau Ffestiniog ac mae'n byw yng Nghonwy. Mae'n gyn brifathro Ysgol John Bright, Llandudno. Mae'n gynghorydd lleol ac yn arweinydd Grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Mae'n aelod o Bwyllgor Gweithredol Cenedlaethol y Blaid. Roedd yn AC Conwy o 1999 hyd 2003 a Gweinidog yr Wrthblaid dros Addysg yn y Cynulliad. Yn dilyn hynny, etholwyd yn Aelod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn etholaeth newydd Aberconwy ar ôl cipio'r sedd gyda mwyafrif o 1,693 yn etholiad Mai, 2007. Ni safodd i gael ei ail-ethol yn 2011.

Mae ei ddiddordebau gwleidyddol yn cynnwys cyfiawnder cymdeithasol, yr iaith Gymraeg ac addysg.

  1. "Panel Cynghori". Comisiynydd y Gymraeg. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-05-21. Cyrchwyd 24 Gorffennaf 2014.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne