![]() | |
Math | pentref ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 52.939°N 3.959°W ![]() |
Cod OS | SH683397 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Liz Saville Roberts (Plaid Cymru) |
![]() | |
Pentref bychan yng Ngwynedd yw Gellilydan ( ynganiad ), rhwng Trawsfynydd a Blaenau Ffestiniog yng nghymuned Maentwrog.
Mae'r pentref ar ochr cefnffordd de-gogledd yr A487 yn agos at gyffordd y ffordd honno gyda'r A470 ar ben allt sy'n cael ei hadnabod fel Dreif yr Oakley, sy'n codi o bentref cyfagos Maentwrog. Dyma'r pentref agosaf at atomfa Trawsfynydd sydd llai na milltir i ffwrdd o ganol y pentref.
Mae ysgol gynradd yn y pentref o'r enw Ysgol Edmwnd Prys, sy'n rhan o ddalgylch Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog. Mae un dafarn yn y pentref o'r enw Y Bryn Arms. Mae gwasanaeth bws eithaf rheolaidd ar gael o'r pentref i Ddolgellau a Blaenau Ffestiniog ac mae hefyd yn cael ei wasanaethu gan fysus y Trawscambria o Fangor i Aberystwyth.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[2]