Math | dinas fawr, bwrdeistref trefol yr Almaen, urban district of North Rhine-Westphalia |
---|---|
Poblogaeth | 265,885 |
Pennaeth llywodraeth | Frank Baranowski |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Regionalverband Ruhr |
Sir | Ardal Llywodraethol Münster |
Gwlad | Yr Almaen |
Arwynebedd | 104.94 km² |
Uwch y môr | 48 metr |
Yn ffinio gyda | Recklinghausen, Herne, Bochum, Essen, Dorsten, Herten, Gladbeck, Marl |
Cyfesurynnau | 51.52°N 7.1°E |
Cod post | 45801–45899 |
Pennaeth y Llywodraeth | Frank Baranowski |
Mae Gelsenkirchen (IPA:ɡɛlzn̩ˈkɪɐ̯çn̩) yn ddinas yn nhalaith Nordrhein-Westfalen yng ngorllewin Yr Almaen. Ei phoblogaeth yn 2016 oedd 262,528 a hi yw 25ain ddinas fwaf y wlad. Lleolir hi ar lan Afon Emscher, sy'n gangen o Afon Rhein. Mae'r ddinas yn gorwedd ynghannol dyffryn y Ruhr, sef ardal ddiwydiannol ac ardal drefol a mwyaf poblog yr Almaen lle mae'r dinasoedd yn rhedeg fewn i'w gilydd yn debyg i bentrefi Cymoedd de Cymru. Gelsenkirschen yw'r bumed ddinas fwyaf yn y Ruhr ar ôl Dortmund, Essen, Duisburg a Bochum. Mae Rhanbarth Rhein-Ruhr yn un o ranbarthau metropolitan fwyaf Ewrop. Gelsenkirchen yw un o ddinasoedd mwyaf deheuol tafodiaith Platt Deutsch - continiwm o dafodieithoedd sy'n ymestyn ar draws gogledd yr Almaen ac sydd agosaf at yr iaith Iseldireg yn hanesyddol. Mae'r ddinas yn gartref i glwb pêl-droed FC Schalke 04, sy'n chware yn y Veltins-Arena yn Gelsenkirchen-Erle.
Mae hanes Gelsenkirschen wedi cael ei nodweddu gan ddiwydiant trwm megis glo a dur ac adnabwyd hi unwaith fel y "dinas y mil o danau".