Gemau'r Gymanwlad 1986 oedd y trydydd tro ar ddeg i Gemau'r Gymanwlad gael eu cynnal. Caeredin, Yr Alban oedd cartref y Gemau rhwng 24 Gorffennaf - 2 Awst. Cafodd y Gemau eu taro gan foicot oherwydd agwedd llywodraeth Prif Weinidog Margaret Thatcher ym Mhrydain tuag at gysylltiadau chwaraeon gyda De Affrica, oedd â system apartheid. O'r 59 o wledydd yn y Gymanwlad, penderfynodd 32 gadw draw rhag y Gemau a phenderfynodd Bermiwda gymryd rhan yn y Seremoni Agoriadol yn unig. O'r herwydd cafwyd y nifer lleiaf o wledydd yn cystadlu ers Gemau Ymerodraeth Prydain 1950.[1]