Gemau'r Gymanwlad Brydeinig 1974 oedd y degfed tro i'r hyn sydd bellach yn cael ei adnabod fel Gemau'r Gymanwlad gael eu cynnal. Christchurch, Seland Newydd oedd cartref y Gemau rhwng 24 Ionawr - 2 Chwefror. Daeth y bleidlias i gynnal y Gemau yn Christchurch yn ystod Gemau 1970 yng Nghaeredin gyda Christchurch yn sicrhau 36 pleidlais a Melbourne 2.