Enghraifft o: | digwyddiad aml-chwaraeon ![]() |
---|---|
Dyddiad | 1978 ![]() |
Dechreuwyd | 3 Awst 1978 ![]() |
Daeth i ben | 12 Awst 1978 ![]() |
Cyfres | Gemau'r Gymanwlad ![]() |
Lleoliad | Edmonton ![]() |
Yn cynnwys | badminton at the 1978 Commonwealth Games ![]() |
![]() |
11fed Gemau'r Gymanwlad | |||
---|---|---|---|
![]() | |||
Campau | 128 | ||
Seremoni agoriadol | 3 Awst | ||
Seremoni cau | 12 Awst | ||
Agorwyd yn swyddogol gan | Elizabeth II | ||
|
Gemau'r Gymanwlad 1978 oedd yr unfed tro ar ddeg i Gemau'r Gymanwlad gael eu cynnal a'r tro cyntaf i'r teitl Gemau'r Gymanwlad gael ei ddefnyddio. Edmonton, Alberta,Canada oedd cartref y Gemau rhwng 3 - 12 Awst. Daeth y bleidlias i gynnal y Gemau yn Edmonton yn ystod Gemau Olympaidd 1972 ym München gydag Edmonton yn sicrhau 36 pleidlais a Leeds yn cael 10.
Cafwyd boicot o'r gemau gan Nigeria mewn protest wedi i dîm Rygbi'r Undeb Seland Newydd ymweld â De Affrica, oedd â system apartheid, ym 1976. Yn dilyn y daith ddadleuol, cafwyd boicot o Gemau Olympaidd 1976 ym Montreal, Canada, gan 28 o wledydd Affrica. Arweiniodd y boicot ym Montreal at benaethiad y Gymanwlad yn arwyddo Cytundeb Gleneagles ym 1977 fyddai'n annog cymdeithasau chwaraeon i beidio gwneud cysylltiadau chwaraeon â De Affrica[1]. Er gwaethaf y cytundeb, penderfynodd Nigeria gadw draw rhag y Gemau yn Edmonton.
Ymunodd athletwyr Bangladesh, Cyprus, Sant Kitts-Nevis, Ynysoedd Caiman ac Ynysoedd Turks a Caicos â'r Gemau am y tro cyntaf ac ychwanegwyd Gymnasteg i'r rhestr o gampau.