14eg Gemau'r Gymanwlad |
---|
|
Campau | 141 |
---|
Seremoni agoriadol | 24 Ionawr |
---|
Seremoni cau | 3 Chwefror |
---|
Agorwyd yn swyddogol gan | Elizabeth II |
---|
|
Gemau'r Gymanwlad 1990 oedd y pedwerydd tro ar ddeg i Gemau'r Gymanwlad gael eu cynnal. Auckland, Seland Newydd oedd cartref y Gemau rhwng 24 Ionawr - 3 Chwefror. Llwyddodd Auckland i ennill yr hawl i gynnal y Gemau yn ystod Gemau Olympaidd 1984 yn Los Angeles wrth drechu New Delhi, India o 20 pleidlais i 19.
Yn dilyn boicot Gemau'r Gymanwlad 1986 cafwyd 55 o wledydd yn gyrru timau i Auckland, y nifer fwyaf erioed, gyda Nawrw, Seychelles ac Ynysoedd Virgin Prydeinig yn ymddangos am y tro cyntaf.