Enghraifft o: | edition of the Commonwealth Games ![]() |
---|---|
Dyddiad | 2002 ![]() |
Dechreuwyd | 25 Gorffennaf 2002 ![]() |
Daeth i ben | 4 Awst 2002 ![]() |
Cyfres | Gemau'r Gymanwlad ![]() |
Lleoliad | Manceinion ![]() |
Yn cynnwys | badminton at the 2002 Commonwealth Games ![]() |
Rhanbarth | Dinas Manceinion ![]() |
![]() |
17eg Gemau'r Gymanwlad | |||
---|---|---|---|
![]() | |||
Campau | 17 | ||
Seremoni agoriadol | 25 Gorffennaf | ||
Seremoni cau | 4 Awst | ||
Agorwyd yn swyddogol gan | Elizabeth II | ||
|
Gemau'r Gymanwlad 2002 oedd yr ail tro ar bymtheg i Gemau'r Gymanwlad gael eu cynnal. Manceinion, Lloegr oedd cartref y Gemau rhwng 25 Gorffennaf - 4 Awst. Pleidleisiodd Cyngor Gemau Gymanwlad Lloegr i enwebu Manceinion ar draul Llundain fel ymgeisydd y wlad ar gyfer cynnal Gemau 2002[1] ac wedi i ddiddordeb Adelaide, Awstralia a Cape Town, De Affrica bylu, cafodd Manceinion eu dewis fel lleoliad Gemau 2002 yn ystod cyfarfod o ffederasiwn Gemau'r Gymanwlad yn Bermiwda ym 1995[2].
Cyflwynwyd Tenis Bwrdd a Triathlon i'r Gemau am y tro cyntaf gyda Bowlio Deg a Chriced yn diflannu, dychwelodd Jiwdo i'r Gemau am y tro cyntaf ers 1990 ac am y tro cyntaf cafwyd cystadlaethau i athletwyr elît gydag anabledd ochr yn ochr ag athletau heb anabledd.
Dyma oedd y Gemau olaf i Simbabwe fynychu cyn gadael y Gymanwlad yn 2003.