Gemau Olympaidd y Gaeaf

Y fflam Olympaidd yn Torino yn ystod Gemau Olympaidd y Gaeaf 2006.

Digwyddiad aml-chwaraeon a gynhelir pob pedair mlynedd yn ystod y gaeaf yw Gemau Olympaidd y Gaeaf. Mae'n cynnwys chwaraeon gaeafol sy'n cael eu cynnal ar rew neu eira, megis sgïo Alpaidd, sgïo traws gwlad, sglefrio ffigur, bobsled a hoci iâ.

Mae sgio traws gwlad, sglefrio ffigur, hoci iâ, cyfuniad Llychlynaidd, naid sgio a sglefrio cyflymder i gyd wedi cael eu cystadlu yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf ers 1924. Mae cystadlaethau athletau eraill wedi cael eu hychwanegu wrth i'r Gemau fynd yn eu blaen. Mae rhai chwaraeon megis luge, sglefrio cyflymder trac byr a sgio steil-rhydd wedi ennill safle parhaol yn y rhaglen Olympiadd, tra bod eraill, megis sgio cyflymder, bandi a skijöring wedi cael eu cynnal fel arddangosfeydd o'r chwaraeon yn unig ond erioed wedi cael eu cynnwys fel chwaraeon Olympaidd swyddogol.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne