![]() | |
![]() | |
Enghraifft o: | Gemau Olympaidd yr Haf ![]() |
---|---|
Dyddiad | 1904 ![]() |
Dechreuwyd | 1 Gorffennaf 1904 ![]() |
Daeth i ben | 23 Tachwedd 1904 ![]() |
Rhagflaenwyd gan | Gemau Olympaidd yr Haf 1900 ![]() |
Olynwyd gan | Gemau Olympaidd yr Haf 1908, 1906 Intercalated Games ![]() |
Lleoliad | Francis Olympic Field, St. Louis ![]() |
Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America ![]() |
Gwefan | https://olympics.com/en/olympic-games/st-louis-1904 ![]() |
![]() |
Cynhaliwyd Gemau Olympaidd yr Haf 1904, digwyddiad aml-chwaraeon a adnabyddir yn swyddogol fel Gemau'r III Olympiad rhwng 1 Gorffennaf a 23 Tachwedd yn St. Louis, Missouri, Unol Daleithiau America. Cynhaliwyd y Gemau ar gampws Prifysgol Washington yn St. Louis. Dyma'r tro cyntaf i'r Gemau Olympaidd gael eu cynnal tu allan i Ewrop.
Chicago oedd wedi eu dewis yn wreiddiol gan yr IOC ond gan fod St. Louis yn cynnal Ffair y Byd gwnaeth y ddinas gais i gynnal y Gemau Olympaidd hefyd ac ym mis Rhagfyr 1902 pleidleisiodd yr IOC o blaid y newid[1].
Oherwydd tensiynau yn dilyn y rhyfel rhwng Ymerodraethau Rwsia a Siapan a thrafferthion teithio i St. Louis dim ond 62 o'r 651 vathletwr oedd yn ddim yn dod o America neu Canada. Mae dryswch dros faint o wledydd fu'n cystadlu gydag athletwyr oedd wedi mudo i America yn cael eu cyfri fel Americanwyr er eu bod dal yn ddinasyddion o'u mamwlad[2][3][4].