Enghraifft o: | digwyddiad aml-chwaraeon |
---|---|
Dyddiad | 1920 |
Dechreuwyd | 20 Ebrill 1920 |
Daeth i ben | 12 Medi 1920 |
Rhagflaenwyd gan | Gemau Olympaidd yr Haf 1916 |
Olynwyd gan | Gemau Olympaidd yr Haf 1924 |
Lleoliad | Olympisch Stadion Antwerp, Antwerp |
Gwladwriaeth | Gwlad Belg |
Gwefan | https://olympics.com/en/olympic-games/antwerp-1920 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cynhaliwyd Gemau Olympaidd yr Haf 1920 (Ffrangeg: Jeux olympiques d'été de 1920, Iseldireg: Olympische Zomerspelen van 1920, Almaeneg: Olympische Sommerspiele 1920), digwyddiad aml-chwaraeon a adnabyddir yn swyddogol fel Gemau'r VII Olympiad rhwng 14 Awst a 12 Medi yn Antwerp, Gwlad Belg.
Dyma oedd y Gemau Olympaidd cyntaf yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf a cafodd y Gemau eu cynnal yng Ngwlad Belg fel teyrnged i bobl Gwlad Belg. Ohewrwydd sancsiynau yn erbyn y gwledydd cafodd eu beio am gychwyn y rhyfel ni chafodd Yr Almaen Awstria, Bwlgaria, Hwngari na'r Ymerodraeth Otomanaidd wahoddiad i gystadlu. Penderfynodd Yr Undeb Sofietaidd nad oedden nhw am gystadlu.