Enghraifft o: | Gemau Olympaidd yr Haf |
---|---|
Dyddiad | 1936 |
Dechreuwyd | 1 Awst 1936 |
Daeth i ben | 16 Awst 1936 |
Rhagflaenwyd gan | Gemau Olympaidd yr Haf 1932 |
Olynwyd gan | Gemau Olympaidd yr Haf 1940 |
Lleoliad | Berlin Olympic Stadium, Berlin |
Gwladwriaeth | Ymerodraeth yr Almaen |
Gwefan | https://olympics.com/en/olympic-games/berlin-1936 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Digwyddiad aml-chwaraeon rhyngwladol pwysig oedd Gemau Olympaidd yr Haf 1936, a adnabyddwyd yn swyddogol fel Gemau'r XI Olympiad. Fe'u cynhaliwyd ym Merlin, Yr Almaen. Enillodd Berlin gyda'u cais i gynnal y gemau, gan guro Barcelona, Sbaen yn y bleidlais ar 26 Ebrill 1931, yn 29fed Eisteddiad y POR ym Marcelona (dyflwydd cyn i'r Natsïaid ddod i bŵer yn yr Almaen). Hon oedd yr ail waith, a'r tro olaf i'r Pwyllgor Olympiaidd Rhyngwladol ymgynnull mewn dinas a oedd yn cynnig cynnal y gemau. Yr unig dro arall y digwyddodd hyn oedd yn yr Eisteddiad cyntaf ym Mharis, Ffrainc, ar 24 Ebrill 1894.
Dyma'r tro cyntaf y dewiswyd o'r cynigion gan ddefnyddio pleidleisiau gan aelodau'r POR dros eu hoff gynnig.[1] Dyma oedd canlyniad y bleidlais.
Canlyniad Pleidlais Gemau Olympaidd yr Had 1936 | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|
Dinas | POC | Cymal 1 | ||||
Berlin | Gweriniaeth Weimar, Yr Almaen | 43 | ||||
Barcelona | Sbaen | 16 |
Comisiynwyd y crewr ffilmiau Leni Riefenstahl, ffefryn Hitler, gan y POR i ffilmio'r Gemau. Cyflwynodd y ffilm, Olympia, nifer o dechnegau ffilmio sydd erbyn hyn yn gyffredin i ffilmio chwaraeon.
Hybodd Hitler ei gred ideolegol o oruchafiaeth hiliol drwy adael i bobl o dras Ariaidd yn unig i gynyrchioli'r Almaen. Ar yr un adeg, tynnwyd arwyddion i lawr yn y prif atyniadau ymwelwyr o gwmpas Berlin, a oedd yn dweud "Iddewon yn ddi-angen" ac arwyddeiriau eraill tebyg. Mewn ymgais i "lanhau" Berlin, rhoddodd Gweinyddiaeth Mewnol yr Almaen ganiatad i bennaeth yr heddlu arestio pobl Romani (sipsiwn) a'u cadw yn y ddalfa mewn gwersyll arbennig.[2] Gorchmynnwyd swyddogion Natsïaidd na ddylai ymwelwyr o dramor cael eu cyfyngu gan gyfraith troseddol gwrth-gyfunrywiol.
Derbyniwyd cyfanswm o 7.5 miliwn Reichsmark am docynnau'r gemau, gan greu elw o dros miliwn mark. Nid oedd y cyllid swyddogol yn cynnwys gwariant dinas Berlin (a gyhoeddodd adroddiad wedi ei eitemeiddio, yn nodi costau o 16.5 miliwn mark) na gwariant llywodraeth yr Almaen (ni chyhoeddwyd yn gyhoeddus, ond amcangyfrifwyd i fod tua $UDA 30 miliwn).[3]