Dinas | Llundain, Lloegr |
---|---|
Arwyddair | Inspire a Generation (Ysbrydola Genhedlaeth) |
Gwledydd sy'n cystadlu | 183 (wedi cymhwyso) 204 (amcangyfrif) |
Athletwyr sy'n cystadlu | 10,500 (amcangyfrif) |
Cystadlaethau | 302 mewn 26 o Chwaraeon Olympaidd |
Seremoni Agoriadol | 27 Gorffennaf |
Seremoni Gloi | 12 Awst |
Stadiwm Olympaidd | Stadiwm Olympaidd Llundain |
Digwyddiad aml-chwaraeon rhyngwladol pwysig oedd Gemau Olympaidd yr Haf 2012, a adnabyddir yn swyddogol fel Gemau'r XXX Olympiad ac a gynhaliwyd yn Llundain, Lloegr o 27 Gorffennaf hyd 12 Awst 2012.[1] Roedd oddeutu 10,000 o athletwyr o 204 o Bwyllgorau Cenedlaethol Olympaidd yn cymryd rhan.[2] O ran nifer y medalau, Unol Daleithiau America a orfu, gyda Tsieina'n ail a Phrydain yn drydydd.
Cytunwyd ar y lleoliad ar 6 Gorffennaf, 2005 ar eisteddiad y 117fed sesiwn o'r corff rheoli a oedd yn cyfarfod yn Singapôr, pan drechwyd ymgais Moscow, Madrid a Paris. Arweinyddion yr ymgais am y gemau ar ran Llundain oedd Sebastian Coe a Ken Livingstone.[3] Llundain oedd y ddinas gyntaf i gynnal y Gemau Olympaidd modern deirgwaith,[4][5] wedi iddynt gynnal Gemau Olympaidd yr Haf 1908 ac 1948.[6][7]
Bu beirniadaeth ynglŷn â chyllid y gemau,[8][9] ond croesawyd hwy gan eraill oherwydd yr ail-ddatblygu y buasai'n digwydd yn nwyrain Llundain – yn enwedig ar sail cynaliadwyedd.[10] Canolbwynt y gemau oedd Parc Olympaidd 200 hectar, a adeiladwyd ar gyn-safle ddiwydiannol yn Stratford, Llundain.[11] Defnyddiodd y Gemau hefyd nifer o leoliadau oedd eisoes wedi eu hadeiladu cyn cychwyn y cais.
From the 27th of July 2012 – 204 countries will send more than 10,000 athletes to compete in 300 events