Dinas | Rio de Janeiro, Brasil |
---|---|
Arwyddair | Byd newydd (Portiwgaleg: Um mundo novo) |
Gwledydd sy'n cystadlu | 206 |
Athletwyr sy'n cystadlu | 11,000+ |
Cystadlaethau | 304 mewn 28 o Chwaraeon Olympaidd |
Seremoni Agoriadol | Awst 5 |
Seremoni Gloi | Awst 21 |
Agorwyd yn swyddogol gan | Michel Temer, Llywydd dros dro |
Llw'r Cystadleuwyr | Robert Scheidt |
Llw'r Beirniaid | Martinho Nobre |
Cynnau'r Fflam | Vanderlei Cordeiro de Lima |
Stadiwm Olympaidd | Estádio do Maracanã |
Digwyddiad aml-chwaraeon rhyngwladol ydy Gemau Olympaidd yr Haf 2016, a adnabyddir yn swyddogol fel Gemau'r XXXI Olympiad (Portiwgaleg: Jogos Olímpicos de Verão de 2016, ynganiad Portiwgaleg Brasil:[ˈʒɔɡʊz oˈlĩpɪkʊs dʒɪ veˈɾɐ̃ʊ̯ dʒɪ ̩doɪ̯zˈmiw ɪ dʒɪzeˈseɪ̯s]) ac a gynhelir yn Rio de Janeiro, Brasil o 5 Awst hyd 21 Awst 2016. Dyma'r Gemau Olympaidd cyntaf i'w cynnal mewn gwlad sydd a Phortiwgaleg yn iaith swyddogol iddi a'r Gemau cyntaf i'w cynnal yn America Ladin.[1]
Mae dros 11,000 o athletwyr yn cymryd rhan gan gynnwys, am y tro cyntaf, athletwyr o Gosofo a De Swdan.[2][3] Ceir 306 set o fedalau a 28 math o gemau - gan gynnwys rygbi a golff a ychwanegwyd gan y Gymdeithas Olympaidd yn 2009. Lleolir y gemau mewn 33 o fannau gwahanol ar hyd a lled y ddinas a phum dinas arall gan gynnwys São Paulo (dinas fwyaf Brasil), Belo Horizonte, Salvador, Brasília (Prifddinas Brasil), a Manaus.
Roedd 28 o chwaraeon wedi eu cynnwys yn y Gemau. Cafodd Rygbi saith bob ochr a golff ei gynnwys am y tro cyntaf yn y gemau hyn.