Enghraifft o: | Summer Paralympic Games |
---|---|
Dyddiad | 2012 |
Dechreuwyd | 29 Awst 2012 |
Daeth i ben | 9 Medi 2012 |
Lleoliad | Llundain |
Gwefan | https://www.paralympic.org/london-2012 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cynhaliwyd digwyddiad aml-chwaraeon Gemau Paralympaidd yr Haf 2012, a adnabyddwyd yn swyddogol fel Gemau Paralympaidd XIV, yn Llundain, Lloegr, o 29 Awst tan 9 Medi 2012, yn fuan wedi Gemau Olympaidd yr Haf 2012 yn yr un ddinas.
Mae perthynas hanesyddol rhwng y Deyrnas Unedig a'r Gemau Paralympaidd. Ym 1948, cynhaliwyd rhagflaenydd y Gemau Paralymaidd, sef Gemau Stoke Mandeville ym mhentref Stoke Mandeville, Lloegr. Trefnwyd hwy gan Dr. Ludwig Guttmann ac Ysbyty Stoke Mandeville, fel gemau athletau ar gyfer cyn-filwyr o'r Ail Ryfel Byd a oedd â anafiadau i'w madruddyn cefn, gan gyd-ddigwydd gyda cychwyn Gemau Olympaidd yr Haf 1948. Dyma oedd y digwyddiad athletau cyntaf erioed a drefnwyd ar gyfer yr anabl, ac erbyn 1960, roedd wedi esblygu i ddod yn Gemau Paralympaidd.[1] Roedd Stoke Mandeville yn westeiwyr i Gemau Paralympaidd yr Haf 1984 ynghyd â Long Island yr Unol Daleithiau, wedi i'r gwesteiwyr gwreiddiol, Prifysgol Illinois yn Champaign, Illinois, dynnu allan oherwydd problemau ariannol.[2]
Agorwyd y gemau'n swyddogol gan Ei Mawrhydi, Elizabeth II, brenhines y Deyrnas Unedig.[3]