Gemau Ymerodraeth Prydain 1950 oedd y pedwerydd tro i'r hyn sydd bellach yn cael ei adnabod fel Gemau'r Gymanwlad gael eu cynnal. Oherwydd yr Ail Ryfel Byd dyma'r tro cyntaf ers 12 mlynedd i'r Gemau gael eu cynnal. Auckland, Seland Newydd oedd cartref y Gemau rhwng 4-11 Chwefror.