George Martin

George Martin
GanwydGeorge Henry Martin Edit this on Wikidata
3 Ionawr 1926 Edit this on Wikidata
Highbury Edit this on Wikidata
Bu farw8 Mawrth 2016 Edit this on Wikidata
Coleshill Edit this on Wikidata
Label recordioEMI, Parlophone Records, Apple Records, Capitol Records, United Artists Records, Island Records, Manticore Records, Atlantic Records, Warner Music Group, Canadian-American Records Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethtrefnydd cerdd, cyfansoddwr, arweinydd, peiriannydd sain, cerddor, cynhyrchydd recordiau Edit this on Wikidata
Arddullcerddoriaeth roc, cerddoriaeth boblogaidd, cerddoriaeth glasurol Edit this on Wikidata
Gwobr/auCBE, Gwobr Ymddiriedolwyr Grammy, Marchog Faglor, Gwobr James Joyce, Gwobr Grammy am Albwm y Flwyddyn, honorary doctor of the Berklee College of Music, Rock and Roll Hall of Fame Edit this on Wikidata

Cynhyrchydd recordiau, trefnydd cerddoriaeth, cyfansoddwr, arweinydd, peiriannydd sain a cherddor o Loegr oedd Syr George Henry Martin CBE (3 Ionawr 1926 – 8 Mawrth 2016). Weithiau mae'n cael ei ddisgrifio fel y "pumed Beatle" gan gyfeirio at ei waith ar bob un o albymau gwreiddiol y Beatles.[1] Cyrhaeddodd 30 o senglau Martin rif un yn siartiau'r Deyrnas Unedig ac aeth 23 i rif un yn yr Unol Daleithiau.

Mynychodd Ysgol Gerdd a Drama y Guildhall rhwng 1947 a 1950, lle'r astudiai'r piano a'r obo. Ar ôl graddio, gweithiodd i adran gerddoriaeth glasurol y BBC, cyn ymuno ag EMI yn 1950. Cynhyrchodd Martin recordiau comedi a nofelti yn y 1950au cynnar, yn gweithio gyda Peter Sellers a Spike Milligan, ymysg eraill.

Ymestynnai gyrfa Martin dros chwe degawd o waith mewn cerddoriaeth, ffilm, teledu a pherfformio byw. Bu hefyd mewn swyddi gweithredol uwch mewn cwmnïau cyfryngol a chyfranodd i ystod eang o achosion da, yn cynnwys ei waith i'r Prince's Trust a ynys Montserrat yn y Caribi.

I gydnabod ei wasanaeth i'r diwydiant cerddoriaeth a diwylliant poblogaidd, fe'i gwnaed yn Farchog Gwyryf yn 1996.

  1. The completed "Let It Be" album was reproduced for release by Phil Spector, but Martin oversaw the production of the Beatles' recording sessions.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne