Georges Braque | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 13 Mai 1882 ![]() Argenteuil ![]() |
Bu farw | 31 Awst 1963 ![]() Paris ![]() |
Dinasyddiaeth | Ffrainc ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cerflunydd, arlunydd, gwneuthurwr printiau, lithograffydd, cynllunydd, dylunydd gemwaith, cynllunydd llwyfan, gludweithiwr, drafftsmon, arlunydd ![]() |
Adnabyddus am | Houses at l'Estaque, La Guitare : « Statue d’épouvante », Mandola ![]() |
Arddull | bywyd llonydd, animal art, celf genre, celf tirlun ![]() |
Prif ddylanwad | Paul Cézanne, African sculpture, Pablo Picasso ![]() |
Mudiad | Ciwbiaeth, Fauvisme ![]() |
Priod | Marcelle Lapré ![]() |
Gwobr/au | Commandeur de la Légion d'honneur, Gwobr Feltrinelli, Commandeur des Arts et des Lettres ![]() |
Arlunydd a cherflunydd o Ffrainc oedd Georges Braque (13 Mai 1882 – 31 Awst 1963). Ynghyd â Pablo Picasso, datblygodd y symudiad arlunio Ciwbiaeth. Ganed ef yn Ffrainc a thyfodd i fyny yn Le Havre. Fe'i hyfforddwyd fel peintiwr ac addurnwr tai fel ei dad a'i daid, ond astudiodd yn yr École des Beaux-Arts yn Le Harve gyda'r nos, o 1897 tan 1899. Daeth yn brentis i addurnwr ym Mharis, ac enillodd ei dystysgrif yn 1902. Yno cyfarfu â Marie Laurencin a Francis Picabia, dau o'r artistiaid a oedd i fod yn rhan o'r mudiad Ciwbiaeth.