Gerardo Machado | |
---|---|
Ganwyd | 28 Medi 1871 Santa Clara |
Bu farw | 29 Mawrth 1939 Miami |
Dinasyddiaeth | Ciwba |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Arlywydd Ciwba |
Plaid Wleidyddol | Liberal Party of Cuba |
Gwobr/au | Coler Urdd Isabella y Catholig, Croes fawr teilyngdod milwrol, adran wen |
Milwr a gwleidydd o Giwba oedd Gerardo Machado y Morales (29 Medi 1871 – 29 Mawrth 1939) a wasanaethodd yn Arlywydd Ciwba o 1925 i 1933.
Ganwyd yn Camajuaní yn nhalaith Villa Clara. Cyrhaeddodd reng brigadydd yn y fyddin chwyldroadol yn ystod Rhyfel Annibyniaeth Ciwba (1895–98). Wedi ei orchestion yn y rhyfel, gwasanaethodd dan lywodraeth yr Arlywydd José Miguel Gómez (1909–13). Enillodd ei ffortiwn yn y 1910au drwy fentrau amaethyddol a buddsoddi mewn cwmnïau cyhoeddus. Dychwelodd i wleidyddiaeth genedlaethol yn arweinydd y Blaid Ryddfrydol yn 1920. Fe'i etholwyd yn arlywydd y wlad yn 1924, a chychwynnodd yn y swydd ar 20 Mai 1925.
Gorchmynnodd Machado raglen o weithiau cyhoeddus ar raddfa eang er mwyn lleddfu effeithiau'r Dirwasgiad Mawr. Ceisiodd yn enwedig ehangu cynnyrch siwgr y wlad i wrthsefyll y cwymp byd-eang mewn pris siwgr, prif allforyn Ciwba. Er iddo ennill cefnogaeth y mwyafrif helaeth o'r wlad ar ddechrau ei arlywyddiaeth, cafodd Machado ei feirniadu am gyfoethogi ei hunan ar bwrs y wlad, a throdd yn raddol yn unben ar Giwba. Cynhaliwyd etholiad arlywyddol 1928 heb wrthwynebiad iddo. Cyfyngwyd ar ryddid y wasg yn ystod ei ail dymor, a chynyddodd protestiadau yn ei erbyn, yn enwedig gan fyfyrwyr. Erbyn 1933, roedd anhrefn ar draws y wlad, ac ymdrechai'r Unol Daleithiau ymyrryd yn y sefyllfa drwy gyfrwng y llysgennad Sumner Welles. Cyhoeddwyd streic gyffredinol, ac o'r diwedd trodd y fyddin yn ei erbyn. Sefydlwyd llywodraeth dros dro gan Carlos Manuel de Céspedes y Quesada, a chafodd Machado ei alltudio ar 12 Awst 1933.
Bu farw ym Miami Beach, Fflorida, yn 67 oed.[1]