![]() | |
![]() | |
Math | bwrdeistref Sbaen ![]() |
---|---|
Prifddinas | Gernika-Lumo ![]() |
Poblogaeth | 17,033 ![]() |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | José María Gorroño Echebarrieta ![]() |
Cylchfa amser | UTC+01:00 ![]() |
Gefeilldref/i | Pforzheim, Boise, Berga ![]() |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Basgeg ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Q107556238 ![]() |
Sir | Busturialdea ![]() |
Gwlad | Sbaen ![]() |
Arwynebedd | 8.6 km² ![]() |
Uwch y môr | 10 ±1 metr ![]() |
Yn ffinio gyda | Ajangiz, Arratzu, Errigoiti, Forua, Kortezubi, Muxika ![]() |
Cyfesurynnau | 43.3169°N 2.6767°W ![]() |
Cod post | 48300 ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | maer Guernica y Lumo ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | José María Gorroño Echebarrieta ![]() |
![]() | |
Tref yn nhalaith Bizkaia yng Nghymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg yw Gernika (Basgeg: Gernika, Sbaeneg: Guernica). Gyda thref gyfagos Lumo ("Luno" yn Sbaeneg) mae'n ffurfio ardal ddinesig Gernika-Lumo, sydd â phoblogaeth o 17,033 (2024).
Mae Gernika o bwysigrwydd mawr yn hanes Gwlad y Basg, oherwydd y cyfarfodydd a gynhelid dan dderwen Gernika, a elwid y Gernikako Arbola. Daeth y cyfarfodydd hyn yn symbol o hawliau traddodiadol Gwlad y Basg. Ar 26 Ebrill, 1937, bomiwyd Gernika gan awyrennau Almaenig oedd yn ymladd dros Fransisco Franco yn Rhyfel Cartref Sbaen. Dyma oedd un o ymosodiadau cyntaf Luftwaffe yr Almaen Natsiaidd. Disgrifiwyd yr ymosodiad gan Winston Churchill fel "an experimental horror".[1] I gofio'r ymosodiad, codwyd Amgueddfa Heddwch yn y ddinas.
Ysbrydolodd hyn ddarlun enwog Pablo Picasso: Guernica (llun).