Gioachino Rossini | |
---|---|
Ganwyd | Gioachino Antonio Rossini 29 Chwefror 1792 Casa Rossini, Pesaro |
Bu farw | 13 Tachwedd 1868 o canser colorectaidd Passy |
Dinasyddiaeth | Yr Eidal |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfansoddwr |
Adnabyddus am | Barbwr Sevilla, La Cenerentola, L'italiana in Algeri, Il turco in Italia, Il viaggio a Reims |
Arddull | opera, cantata, cerddoriaeth glasurol |
Tad | Giuseppe Rossini |
Mam | Anna Guidarini |
Priod | Isabella Colbran, Olympe Pélissier |
Gwobr/au | Urdd Teilyngdod am Wyddoniaeth a Chelf, Uwch Swyddog y Lleng Anrhydedd, Urdd Sant Stanislaus |
llofnod | |
Cyfansoddwr clasurol o'r Eidal oedd Gioachino Rossini (29 Chwefror 1792 – 13 Tachwedd 1868). Cafodd ei eni ym Mhesaro, Yr Eidal, yn fab i'r cerddor Giuseppe Rossini a'i wraig Anna, cantores. Cyfansoddwyd 39 o operâu a hefyd cerddoriaeth eglwys, caneuon ac i'r gerddorfa.
Ymhlith ei weithiau enwocaf yw Il barbiere di Siviglia (Barbwr Sevilla) a La Cenerentola a gweithiau yn yr iaith Ffrangeg fel Moïse et Pharaon a Gwilym Tell. Er ei enwocrwydd ar y pryd ymddeolodd o fyd yr opera yn gynnar ym 1829 ac yn llawn o 1832. Ers y saithdegau daeth ei waith yn ôl i lwyfannau opera y byd. Ymhlith sêr cyfoes y canu Rossini mae Anna Caterina Antonacci.