Giorgio Napolitano | |
---|---|
Portread swyddogol yr Arlywydd Giorgio Napolitano (2006). | |
Ganwyd | 29 Mehefin 1925 Napoli |
Bu farw | 22 Medi 2023 |
Galwedigaeth | newyddiadurwr |
Swydd | Aelod o Siambr Dirprwyon Gweriniaeth yr Eidal, Aelod o'r Senedd Eidalaidd, Aelod Senedd Ewrop, Aelod Senedd Ewrop, Aelod o Siambr Dirprwyon Gweriniaeth yr Eidal, Aelod o Siambr Dirprwyon Gweriniaeth yr Eidal, Aelod o Siambr Dirprwyon Gweriniaeth yr Eidal, Aelod o Siambr Dirprwyon Gweriniaeth yr Eidal, Aelod o Siambr Dirprwyon Gweriniaeth yr Eidal, Aelod o Siambr Dirprwyon Gweriniaeth yr Eidal, Aelod o Siambr Dirprwyon Gweriniaeth yr Eidal, Aelod o Siambr Dirprwyon Gweriniaeth yr Eidal, Aelod o Siambr Dirprwyon Gweriniaeth yr Eidal |
Taldra | 175 centimetr |
Gwobr/au | Marchog Uwch-Groes Urdd Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, Uwch-Groes Urdd Isabel la Católica, Urdd yr Eryr Gwyn, Grand Cross of the Order of the White Double Cross, Urdd Umayyad, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Paris-Sorbonne, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Madrid, Prix de la laïcité, Uwch-seren Datganiad o Wasanaeth i Weriniaeth Awstria, Uwch Groes Rhosyn Gwyn y Ffindir gyda Choler, Commander of the Order for Merits to Lithuania, National Maltese Order of Merit, Urdd cenedlaethol Coler Uwch Cruz del Sur, "Gjergj Kastrioti Skënderbeu" Decoration |
llofnod | |
Gwleidydd o'r Eidal oedd Giorgio Napolitano (29 Mehefin 1925 – 22 Medi 2023) a wasanaethodd yn Arlywydd yr Eidal o 2006 i 2015.
Ganed ef yn Napoli, Teyrnas yr Eidal, yn fab i'r cyfreithiwr a bardd Giovanni Napolitano a'i wraig Carolina (Bobbio gynt). Astudiodd Giorgio y gyfraith ym Mhrifysgol Federico II, yn Napoli. Yn y brifysgol cyfarfu â Clio Bittoni; priodasant ym 1959. Ym 1945, ymaelododd Napolitano â Phlaid Gomiwnyddol yr Eidal (PCI).[1] Fe'i etholwyd i Siambr y Dirprwyon ym 1953, a chynrychiolai Napoli yn y ddeddfwrfa hyd at 1996, ac eithrio'r cyfnod 1963–68. Fel aelod o Blaid Ddemocrataidd y Chwith (PDS), a ddilynodd y PCI ym 1991, gwasanaethodd Napolitano yn Llywydd Siambr y Dirprwyon o 1992 i 1994, ac yn Weinidog Cartref o 1996 i 1998 yn llywodraeth gyntaf y Prif Weinidog Romano Prodi. Gwasanaethodd hefyd yn Aelod Senedd Ewrop dros Dde'r Eidal o 1989 i 1992 ac o 1999 i 2004.
Penodwyd Napolitano yn seneddwr am oes gan yr Arlywydd Carlo Azeglio Ciampi yn 2005. Ym Mai 2006, ac yntau'n cynrychioli Democratiaid y Chwith (DS, a ddilynodd y PDS ym 1998) ac yn ymgeisydd dros gynghrair etholiadol L'Unione, fe'i etholwyd yn Arlywydd yr Eidal gan y senedd. Efe oedd yr 11eg dyn i'w ethol yn arlywydd, y cyntaf i'w ail-ethol (yn 2013), a'r cyn-gomiwnydd cyntaf i ddal y swydd. Ymddiswyddodd o'r arlywyddiaeth yn Ionawr 2015, a fe'i olynwyd gan Sergio Mattarella. Dychwelodd Napolitano i'w sedd yn y senedd am weddill ei oes. Bu farw yn Rhufain yn 2023, yn 98 oed.