Glee | |
---|---|
Genre | Sioe gerdd Drama-gomedi Drama -arddegau |
Serennu | Dianna Agron Chris Colfer Jessalyn Gilsig Jane Lynch Jayma Mays Kevin McHale Lea Michele Cory Monteith Heather Morris Matthew Morrison Mike O'Malley Amber Riley Naya Rivera Mark Salling Harry Shum Jr. Jenna Ushkowitz Darren Criss |
Gwlad/gwladwriaeth | Yr Unol Daleithiau |
Iaith/ieithoedd | Saesneg |
Nifer cyfresi | 6 |
Nifer penodau | 121 |
Cynhyrchiad | |
Amser rhedeg | 42 - 45 munud |
Darllediad | |
Sianel wreiddiol | Fox |
Darllediad gwreiddiol | 19 Mai, 2009 – 20 Mawrth, 2015 |
Dolenni allanol | |
Gwefan swyddogol | |
Proffil IMDb |
Cyfres deledu Americanaidd sy'n gymysgedd o sioe gerdd, comedi a drama ydy Glee, a ddarlledir ar Fox. Canolbwyntia'r gyfres ar gôr sioe (a elwir yn glwb glee hefyd), o'r enw "New Directions!", a leolwyd yn yr Ysgol Uwchradd William McKinley ffuglennol yn Lima, Ohio.[1] Darlledwyd rhaglen beilot y sioe ar ôl American Idol ar 19 Mai, 2009,[2] a dechreuodd y gyfres gyntaf ar 9 Medi, 2009.[3] Ar 21 Medi 2009 cytunodd Fox yn swyddogol i greu cyfres gyfan.[4] Darlledodd Glee ei finale canol-cyfres ar 9 Rhagfyr 2009. Wedi iddi gael saib o 4-mis tan 13 Ebrill, dechreuwyd i ddarlledu eto yn 2010 gyda 9 rhaglen o'r gyfres sydd ar ôl.[5] Ar 11 Ionawr, 2010, cyhoeddodd Llywydd Fox, Kevin Reilly yn nhaith Gaeaf y Wasg fod Glee wedi cael ei chomisiynu am ail gyfres.[6].
Yn wreiddiol, bwriad crewyr y sioe Ryan Murphy, Brad Falchuk, a Ian Brennan oedd creu Glee fel ffilm gyda Murphy'n dewis cerddoriaeth y gyfres, gan gynnal cydbwysedd rhwng caneuon o sioeau cerdd a chaneuon o'r siart. Rhyddheir y caneuon a ganir yn y sioe ar iTunes yn ystod wythnos y darllediad, a rhyddheir cyfres o albymau Glee drwy Columbia Records, gan ddechrau gyda Glee: The Music, Volume 1, a ryddhawyd ar 3 Tachwedd, 2009. Mae cerddoriaeth Glee wedi bod yn llwyddiant masnachol gyda dros ddwy filiwn o werthiannau digidol.
Mae'r sioe wedi derbyn adolygiadau cadarnhaol. Er i Alessandra Stanley yn The New York Times dynnu sylw at ddiffyg gwreiddioldeb a chymeriadau ystrydebol y rhaglen beilot, canmolodd berfformiadau a thalent y cast. Enillodd y sioe Wobr Golden Globe yn 2010 am y Gyfres Gomedi Orau a derbyniodd dri enwebiad arall am yr Actores Orau (Lea Michele), yr Actor Gorau (Matthew Morrison), a'r Actores Gefnogol Gorau (Jane Lynch).[7]