Gleider

Y Glaser-Dirks DG-808 dros Lac de Serre Ponçon yn yr Alpau, Ffrainc

Math o awyren sy'n cael ei hedfan drwy adwaith deinamig o'r aer yn erbyn ei arwynebau codi, ac sy'n hedfan heb beiriant yw gleider.[1] Mae'n hedfan heb beiriant, ond ceir peiriant gan sawl math o gleider i ymestyn eu taith neu i godi o afael y ddaear. Gellir galw awyren arferol yn gleider pan fo'i beiriant yn methu a dywedir fod aderyn yn gleidio pan nad yw'n ysgwyd ei adenydd.

  1. "Llawlyfr FAA" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2013-09-03. Cyrchwyd 2013-06-25.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne