Glyn Davies | |
---|---|
Ganwyd | 22 Mai 1919 |
Bu farw | 6 Ionawr 2003 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | economegydd |
Cyflogwr |
Economegydd o Gymro oedd Glyndwr "Glyn" Davies[1] (22 Mai 1919 – 6 Ionawr 2003) sydd yn nodedig am ei lyfr A History of Money (1994).
Ganed ef yn Aber-bîg, Sir Fynwy, yn fab i löwr, a chafodd ei enwi ar ôl Owain Glyn Dŵr.[1] Symudodd y teulu ar draws y cymoedd a'r canolbarth i chwilio am waith yn ystod y Dirwasgiad Mawr, ac o ganlyniad bu Glyn yn mynychu 16 o ysgolion i gyd. Cafodd ei annog gan un o'i athrawon yn Llandrindod i ddysgu Lladin, a oedd ar y pryd yn hanfodol er mwyn cael ei dderbyn i Brifysgol Rhydychen. Symudodd y teulu i Donypandy, lle nad oedd gwersi Lladin yn cael eu cynnig gan yr ysgol leol, a ni fyddai'n astudio yn Rhydychen. Fodd bynnag, cyn iddo adael yr ysgol, enillodd fedal a'r wobr uchaf mewn economeg mewn arholiadau Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau, a chafodd ei dderbyn i Goleg Prifysgol Cymru, Caerdydd i astudio economeg.[2]
Ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd, ymunodd Glyn Davies â'r Fyddin Brydeinig heb aros i gael ei alw i'r lluoedd, a fe wasanaethodd yn y Dragwniaid Brenhinol 1af, a fu'n rhan o'r 7fed Adran Arfogedig ("Llygod yr Anialwch") yn ystod Ymgyrch Gogledd Affrica. Bu Davies yn rhan o Frwydr El Alamein ym 1942, a glaniadau Normandi ym 1944. Wrth i'w gatrawd ryddhau Denmarc ym Mai 1945, cyfarfu ag Anna Margrethe, a phriodasant ym 1947. Cawsant dri mab ac un ferch. Wedi'r rhyfel, dychwelodd Davies i Gaerdydd a derbyniodd radd gyffredin ymhen y flwyddyn. Gweithiodd yn athro mewn ysgol gynradd tra'n astudio fel myfyriwr allanol am ei radd anrhydedd ac yna gradd meistr mewn economeg o Brifysgol Llundain.[2]
Symudodd i Glasgow ym 1959, ac yno bu'n darlithio yng Ngholeg Masnach yr Alban (bellach Prifysgol Strathclyde). Davies oedd un o arloeswyr astudiaethau rhanbarthol, sydd yn defnyddio ymchwil rhyngddisgyblaethol i fynd i'r afael â phroblemau diweithdra a datblygiad diwydiannol. Ym 1968 fe'i penodwyd i gynghori George Thomas, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, fel yr uwch-gynghorydd economaidd cyntaf yn y Swyddfa Gymreig. O 1970 i 1985, Davies oedd yr athro bancio ac arianneg yng nghadair Syr Julian Hodge, ac yn bennaeth ar economeg gymhwysol, yn Sefydliad Gwyddoniaeth a Thechnoleg Prifysgol Cymru (UWIST), yr athro prifysgol cyntaf ym meysydd bancio ac arianneg yng Nghymru. Bu hefyd yn gynghorydd economaidd i Fanc Masnachol Cymru a Banc Julian Hodge, ac yn un o gyfarwyddwyr Banc Masnachol Cymru. Bu farw Glyn Davies yn 83 oed.[2]