![]() | |
Math | tref, cymuned ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 4,019 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Rhondda Cynon Taf ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.6577°N 3.4459°W ![]() |
Cod SYG | W04000683 ![]() |
Cod OS | ST000964 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Elizabeth (Buffy) Williams (Llafur) |
AS/au y DU | Chris Bryant (Llafur) |
![]() | |
Tref a chymuned yng Nghwm Rhondda ym mwrdeistref sirol Rhondda Cynon Taf yw Glynrhedynog[1] (ac yn llai cywir ei orgraff, Glyn Rhedynog) (Saesneg: Ferndale).[2] Trerhondda oedd yr enw gwreiddiol, ar ôl enw capel yr Annibynwyr a godwyd yno yn 1867. "Glynrhedynog" yw enw hen fferm a fu lle y mae'r pentre heddiw. Trosiad llac o'r enw Cymraeg yw'r Saesneg "Ferndale".). Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 4,419.
Saif Trerhondda rhwng Maerdy a Phendyrus. Dechreuodd y diwydiant glo yna yn 1857, a Threrhondda oedd y pentref diwydiannol cyntaf yng Nghwm Rhondda. Bu dwy drychineb fawr yn y lofa yma yn y 19g, y gyntaf ar 8 Tachwedd 1867, pan laddwyd when 178 o lowyr. Ar 10 Mehefin 1869, bu ffrwydrad arall yma, a lladdwyd 53.
Y mae yno Ysgol Gymraeg Llyn y Forwyn.