Go Tell It on the Mountain

Go Tell It on the Mountain
Enghraifft o:gwaith ysgrifenedig Edit this on Wikidata
AwdurJames Baldwin
CyhoeddwrAlfred A. Knopf
GwladUDA
IaithSaesneg
Dyddiad cyhoeddi1953 Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1953
Genrenofel hunangofiannol, llenyddiaeth Affro-Americanaidd Edit this on Wikidata
Prif bwncHarlem, racial segregation in the United States, hiliaeth Edit this on Wikidata
Lleoliad y gwaithHarlem Edit this on Wikidata

Nofel led-hunangofiannol gan James Baldwin yw Go Tell It on the Mountain a gyhoeddwyd ym 1953. Mae'n ymwneud â pherthynas yr Eglwys Gristnogol â'r gymuned a'r teulu Affricanaidd-Americanaidd. Daw teitl y llyfr o'r gân ysbrydol o'r un enw, a elwir yn "Dos Dywed ar y Mynydd" yn Gymraeg. Hon oedd nofel gyntaf James Baldwin.

Rhennir y nofel yn dair rhan. Yn y rhan gyntaf cyflwynir stori'r prif gymeriad, John Grimes, llanc croenddu sydd yn llysfab i bregethwr Pentecostaidd. Yn yr ail ran, datgelir hanesion yr oedolion sydd ym mywyd John, ac yma mae disgrifiadau o gamdriniaeth, trais, hiliaeth, ffydd, euogrwydd a gwaredigaeth. Yn rhan olaf y nofel portreadir defod eglwysig mewn delweddau megis breuddwyd, wrth i John geisio deall ei rywioldeb a'i ffydd.[1]

  1. Samuels, Wilfred. Encyclopedia of African-American Literature (Efrog Newydd: Facts On File, 2007), t. 211.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne