God Defend New Zealand

God Defend New Zealand
Enghraifft o:anthem genedlaethol Edit this on Wikidata
GwladSeland Newydd Edit this on Wikidata
IaithSaesneg Newydd Seland, Maori Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1870s Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1977 Edit this on Wikidata
Genrebarddoniaeth Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus Edit this on Wikidata
GwladwriaethSeland Newydd Edit this on Wikidata
CyfansoddwrJohn Joseph Woods Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Un o ddwy anthem genedlaethol Seland Newydd yw God Defend New Zealand ("Amddiffyned Duw Seland Newydd"). God Save the Queen yw'r llall.

Ysgrifennwyd y geiriau Saesneg yn yr 1870au gan Thomas Bracken (1843–1898), bardd a gwleidydd o Dunedin.[1] Trefnwyd cystadleuaeth i ddarparu alaw iddo ym 1876. Enillwyd honno gan y cerddor John Joseph Woods (1849–1934). Ysgrifennwyd fersiwn â geiriau o iaith Maori gan Thomas Henry Smith (1824–1907) ym 1878. Yn y blynyddoedd i ddod daeth y gân yn fwyfwy poblogaidd. Erbyn y 1970au roedd mudiad i wneud God Defend New Zealand yn anthem genedlaethol y wlad yn lle God Save the Queen. Yn y diwedd, ym 1977, rhoddwyd staws anthem genedlaethol i'r ddau ohonyn nhw ar y cyd. Ers diwedd y 1990au, yr arfer arferol wrth berfformio God Defend New Zealand yn gyhoeddus yw perfformio pennill cyntaf ddwywaith, yn gyntaf ym Maori ac wedi hynny yn Saesneg.

  1. "National hymn, God defend New Zealand. 1876; ID: GNZMS 6], Grey New Zealand manuscripts". Cyngor Auckland. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-01-11. Cyrchwyd 2022-01-09.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne