Godro

Godro
Enghraifft o:dull magu anifeiliaid, gweithgaredd amaethyddol Edit this on Wikidata
Rhan omagu anifeiliaid Edit this on Wikidata
Cynnyrchllaeth Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Godro â llaw
Godro â peiriant

Y weithred o dynnu llefrith allan o bwrs anifail, megis buwch, gafr neu ddafad, yw godro. Gellir godro gwartheg gan ddefnyddio dwylo neu beiriant.

Caiff godro gyda llaw i gyflawni drwy dylino a tynnu ar dethau pwrs yr anifail. Bydd y person sy'n godro yn eistedd ar stôl fel rheol, gan chwistrellu'r llaeth i mewn i fwced rhwng eu coesau.

Mae peiriant godro yn tynnu'r llefrith allan drwy ddefnyddio gwactod. Mae cwpanau teth y peiriant yn cael eu cysylltu i dethau'r anifail. Mae'r pwysedd awyr yn y cwpanau yn cyfnewid yn gyson, maent yn creu gwactod, ac yna'n dychwelyd i bwysedd arferol, gan achosi i'r llefrith gael ei dynnu heb niweidio tethau'r anifail. Mae'r llefrith yn teithio o'r cwpanau trwy bibellau at danc mawr. Gellir godro nifer fawr o anifeiliaid ar unwaith fel hyn.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne