Mewn ffiseg a mathemateg, gall dilyniant o rifau nodi lleoliad mewn gofod n-ddimensiwn. Pan n = 1, gelwir y set o bob lleoliad o'r fath yn "ofod un-dimensiwn". Fe'i hysgrifennir hefyd fel gofod 1D a gofod un dimensiwn. Mae'r llinell rif yn enghraifft o ofod un-dimensiwn, lle gellir disgrifio lleoliad pob pwynt arno gan un rhif.[1]
Mewn geometreg algebraidd mae sawl strwythur sy'n dechnegol un-dimensiwn ond cyfeirir ato mewn termau eraill. Mae maes k yn ofod fector un-dimensiwn dros ei hun. Yn yr un modd, mae'r linell dafl (projective line neu "dafluniad y llinell") dros k yn ofod un-dimensiwn. Yn benodol, os yw k = ℂ, y rhifau cymhlyg, yna mae'r linell dafl cymhlyg P1(ℂ) yn un-dimensiwn mewn perthynas ag ℂ, er ei bod hefyd yn cael ei alw'n "sffêr Riemann".
Mae'r system gyfesurynol un dimensiwn yn cynnwys y linell rif a'r ongl.
Yn fwy cyffredinol, mae modrwy yn fodiwl un-hyd drosto'i hun. Yn yr un modd, mae'r linell dafl (neu "dafluniad y llinell") dros y fodrwy yn ofod un-dimensiwn dros y fodrwy. Pan fo'r fodrwy yn algebra dros faes, mae'r gofod yn un-dimensiwn mewn perthynas â'r algebra, hyd yn oed os yw'r algebra o ddimensiwn uwch.