Bwrw ceiniog, lle ceir dau ganlyniad posib, gyda'r ddau yr un mor debygol. | |
Math | set ![]() |
---|---|
Yn cynnwys | canlyniad ![]() |
![]() |
Gofod y sampl neu ofod-sampl, mewn arbrawf neilltuol, yw'r set o'r holl ganlyniadau posib. fe'i ceir yn aml oddi fewn i faes tebygolrwydd.
Caiff y set ei ddynodi gan nodiant arferol setiau, sef ∅ (set wag), (hefyd neu neu {} ), N, rhifau Naturiol, Z (cyfanrifau - o Zahl, sef yr Almaeneg am rif), Q (rhifau cymarebol; o'r gair quotient), R (rhifau Real) a C (rhifau Cymhlyg). Rhestrir y canlyniadau posib fel "elfennau'r" set. Cyfeirir yn aml at ofod y sampl gan y labeli S, Ω, neu U (o'r Saesneg "universal set") sef y "setiau cynhwysol".
Er enghraifft, os mai'r arbrawf yw bwrw ceiniog, gofod y sampl yw'r set {pen, cynffon}. Pe fwrir dwy geiniog, yna gofod cyfatebol y sampl fyddai {pen,pen}, {pen,cynffon}, {cynffon,pen}, {cynffon,cynffon}. Gellir talfyru hyn i: {PP, PC, CP, CC}. Os yw'r gofod heb ei drefnu yna gellir ei nodi fel: {pen,pen}, {pen,cynffon}, {cynffon,cynffon}.
Pe bai'r arbrawf yn cynnwys taflu deis 6-ochr, yna gofod y sampl fyddai {1, 2, 3, 4, 5, 6} (a'r canlyniad o ddiddordeb i ni yw'r nifer o ddotiau sydd ar yr ochr uchaf).[1]
Mae gofod y sampl a ddiffiniwyd yn dda dair elfen sylfaenol o fewn model tebygolrwydd (a elwir hefyd yn "ofod tebygolrwydd"); mae'r ddwy arall yn set a ddiffiniwyd yn dda o ddigwyddiadau (sigma-algebra) a thebygolrwydd a neilltuwyd i bob digwyddiad (tebygolrwydd ffwythiannol).