Gogledd Caerdydd (etholaeth seneddol)

Gogledd Caerdydd
Etholaeth Bwrdeistref
Gogledd Caerdydd yn siroedd Cymru
Creu: 1950
Math: Tŷ'r Cyffredin
AS presennol: Anna McMorrin (Llafur)

Etholaeth seneddol yw Gogledd Caerdydd, sy'n danfon un cynrychiolydd i San Steffan. Anna McMorrin (Llafur) yw'r Aelod Seneddol.

Pan bleidleisiodd pob Aelod Seneddol Cymreig, namyn un, yn erbyn boddi Capel Celyn David Llywellyn, AS Gogledd Caerdydd oedd yr un hwnnw.[1]

Yn etholaeth Gogledd Caerdydd cafwyd y bleidlais isaf erioed ar gyfer ymgeisydd mewn etholiad cystadleuol, pan lwyddodd Catherine Taylor-Dawson o The Vote For Yourself Rainbow Dream Ticket Party i ennill dim ond un bleidlais yn etholiad cyffredinol 2005.

  1. Blog HRF Pwy oedd un Tryweryn? adalwyd 3 Mawrth 2014

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne