Rhanbarthau etholiadol Senedd Cymru | |
---|---|
Gogledd Cymru yng nghyd destun Cymru gyfan | |
Crewyd 1999 | |
Y gynrychiolaeth gyfredol | |
Llafur | 5 Aelod o'r Senedd (ASau Cymru) |
Ceidwadwyr | 5 ASau |
Plaid Cymru | 3 ASau |
Etholaethau 1. Aberconwy 2. Alun a Glannau Dyfrdwy 3. Arfon 4. De Clwyd 5. Delyn 6. Dyffryn Clwyd 7. Gorllewin Clwyd 8. Wrecsam 9. Ynys Môn | |
Siroedd cadwedig Clwyd (rhan) Gwynedd (rhan) Powys (rhan) |
Mae Gogledd Cymru yn rhanbarth etholiadol Senedd Cymru ac yn cynnwys 9 etholaeth. Fe'i sefydlwyd yn Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 1999. Mae'r rhanbarth hon yn ethol 13 aelod: 9 ohonynt yn uniongyrchol o'r etholaethau a 4 aelod rhanbarthol ychwanegol. Mae'r 9 etholaethol yn cael eu hethol drwy system 'y cyntaf i'r felin', a'r 4 rhanbarthol yn cael eu ethol drwy system 'D'Hondt' i gynrychioli'r rhanbarth gyfan er mwyn dod ag elfen o gynrychiolaeth gyfranol i'r etholiad.