![]() | |
![]() | |
Math | endid tiriogaethol dynol-ddaearyddol ![]() |
---|---|
Prifddinas | Perpignan ![]() |
Poblogaeth | 483,380 ![]() |
Pennaeth llywodraeth | Hermeline Malherbe-Laurent ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Ffrainc ![]() |
Sir | Pyrénées-Orientales ![]() |
Gwlad | ![]() ![]() |
Arwynebedd | 4,116 km² ![]() |
Cyfesurynnau | 42.63°N 2.67°E ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Hermeline Malherbe-Laurent ![]() |
![]() | |
Gogledd Catalwnia (Catalaneg: Catalunya Nord) yw'r term a ddefnyddir yng Nghatalwnia am y tiriogaethau yn awr yn departement Pyrénées-Orientales yn Ffrainc lle siaredir Catalaneg. Mae'n cynnwys y rhan fwyaf o Pyrénées-Orientales, heblaw am ddarn yn y gogledd. Gelwir yr ardal yn Roussillon yn Ffrangeg fel rheol.
Trosglwyddwyd y diriogaeth yma o Sbaen i Ffrainc gan Gytundeb y Pyreneau yn 1659. Y ddinas fwyaf yw Perpignan (Catalaneg: Perpinyà), lle ceir traean o boblogaeth yr ardal. Amcangyfrifir fod tua chwarter y boblogaeth yn siarad Catalaneg, gyda chanran uwch yn ei deall. Yn Rhagfyr 2007, derbyniodd llywodraeth Pyrénées-Orientales yr iaith Gatalaneg fel un o ieithoedd swyddogol y departement, gyda Ffrangeg ac Occitaneg.