Gogledd Corea

Gogledd Corea
Gogledd Corea
Gweriniaeth Ddemocrataidd
Pobl Corea
Flag of North Korea
Mathgwladwriaeth sofran, gwlad, gweriniaeth y bobl, teyrnas meudwyaidd Edit this on Wikidata
PrifddinasP'yŏngyang Edit this on Wikidata
Poblogaeth26,418,204 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd27 Rhagfyr 1972 (Cyfansoddiad cyfredol)
AnthemAegukka Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethKim Jae-ryong Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+09:00 Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Iaith safonol Gogledd Corea, Coreeg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolDwyrain Asia Edit this on Wikidata
Arwynebedd120,540 ±1 km² Edit this on Wikidata
GerllawY Môr Melyn, Môr Japan Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaDe Corea, Rwsia, Gweriniaeth Pobl Tsieina Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau40°N 127°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolLlywodraeth Gogledd Corea Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholCynulliad Goruchaf y Bobl Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Arweinydd Goruchaf Gogledd Corea Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethKim Jong-un Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prif Weinidog Gogledd Corea Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethKim Jae-ryong Edit this on Wikidata
Map
ArianNorth Korean won Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant1.979 Edit this on Wikidata

Gwlad yn nwyrain Asia yw Gweriniaeth Ddemocrataidd Pobl Corea (Chosŏn'gŭl: 조선민주주의인민공화국; Chosŏn Minjujuŭi Inmin Konghwaguk) neu Gogledd Corea (Ynghylch y sain ymagwrando). Mae wedi'i lleoli yn hanner gogleddol Penrhyn Corea. Mae'n ffinio â De Corea i'r de, Tsieina i'r gogledd a Rwsia i'r gogledd-ddwyrain. Ei phrifddinas yw Pyongyang sef dinas fwyaf y wlad o ran poblogaeth ac arwynebedd. Ceir dwy afon ar y ffin â Tsieina: Afon Amnok ac Afon Tumen. Mae gan y wlad arfau niwclear ac wedi dod a'u trafodaethau heddwch, gyda De Corea a'r UDA i ben. Mae'r Unol Daleithiau a Tsieina wedi cytuno ar sancsiynau newydd i gosbi Gogledd Corea am ddatblygu taflegrau pellgyrhaeddol, ac am eu profion niwclear diweddar (2013).

Conglfaen eu hathrawiaeth ydy disgyblaeth wleidyddol y Chuch'e (neu Juche), sef athrawiaeth Kim Il-sung sy'n mynnu fod datblygiad y wlad yn nwylo'r werin datws. Defnyddir yr athrawiaeth hon gan Lywodraeth y wlad i gyfiawnhau ei gweithredoedd.

Collodd Gogledd Corea ffrind mynwesol a phwerus pan ddatgymalwyd yr Undeb Sofietaidd ym 1991, er bod ganddi gysylltiad cryf gyda Tsieina. Ar ben hyn dioddefodd y wlad oherwydd sawl trychineb naturiol a phrofodd newyn enbyd rhwng 1994 a 1998; credir i rhwng 240,000 i 1,000,000 o bobl farw.[1][2]

  1. Stephan Haggard, Marcus Noland, and Amartya Sen, Famine in North Korea, Columbia University Press, tud. 209.
  2. Spoorenberg, Thomas; Schwekendiek, Daniel. "Demographic Changes in North Korea: 1993–2008", Population and Development Review, 38(1), tud. 133-158.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne