Mae gorbryder (Saesneg: anxiety) yn gyflwr o densiwn mewnol yn y corff, sy'n aml yn cynnwys ymarweddiad nerfus gan y person, megis cerdded yn ôl ag ymlaen, afiechydon somatig, cnoi ewinedd, cen gwallt neu'n meddwl am rywbeth drosodd a throsodd.[1] Dyma'r teimlad o ofnadwyaeth fod rhywbeth erchyll fel marwolaeth ar ddigwydd.[2]
Mae gorbryder yn wahanol i ofn, sydd wedi'i seilio ar rywbeth real neu beryglus. Ond mae'n seiliedig ar adwaith go iawn i fygythiad gwirioneddol.[3] Mae gorbryder, felly yn cynnwys elfen o ofn, poeni ac ansicrwydd. Fel arfer mae'r rhain yn crynhoi mewn modd di-ffocws, cyffredinol i ryw sefyllfa arbennig a bygythiol.[4] Ymhlith yr affeithiadau a gaiff ar y corff mae: blinder corfforol a meddyliol, methu a chanolbwyntio, a thyndra yn y cyhyrau. Nid yw'n cael ei ystyried fel ymarweddiad naturiol a phan fo'n datblygu i'r eithaf, gall greu problemau seicolegol.[5]
|accessdate=
(help)